Jump to site navigation [j]

Cymraeg

Croeso i wefan Heddlu’r Swyddfa Gartref

Mae’r wefan hon yn ceisio cyfuno’r holl wybodaeth, cymorth a chanllawiau sy’n gysylltiedig â’r heddlu a gyhoeddir gan y Swyddfa Gartref mewn un wefan. Bydd yn ddefnyddiol i bob rheng o swyddogion yr heddlu ac unrhyw un sy’n ymwneud â’r byd plismona a chyfiawnder.

Yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, mae’r Swyddfa Gartref wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth i siaradwyr Cymraeg yn yr iaith o’u dewis. Mae’r wefan hon yn rhan o’r broses honno.

Nid yw’r adran Gymraeg yn cyfateb yn uniongyrchol i’r wefan Saesneg gan ei bod wedi’i chynllunio’n bwrpasol fel ei bod yn cynnwys gwybodaeth sy’n benodol i Gymru a phobl Cymru’n gyffredinol. Fel yn achos pob gwefan, mae’r adran hon yn cael ei datblygu a’i diweddaru’n barhaus, a bydd mwy o wybodaeth yn cael ei hychwanegu, fel y bydd yn dod ar gael.

 

Home Office websites